Crynodeb a Chyfrifoldebau
Mae’r fisa Llwybr Graddedigion yn fisa gweithio hyblyg a chynhwysol ar gyfer y cyfnod ar ôl astudio sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr cymwys a noddir gan Brifysgol Abertawe aros yn y DU a gweithio, neu chwilio am waith, ar unrhyw lefel sgiliau am 2 flynedd (3 blynedd ar gyfer myfyrwyr doethurol) wedi i’w gradd gael ei dyfarnu. Gall y gwaith fod mewn unrhyw sector ac ar unrhyw lefel heb ofynion o ran isafswm cyflog neu'r angen am nawdd fisa. Caniateir astudio hefyd o dan y llwybr hwn, ac eithrio astudio a ddylai gael ei noddi o dan y fisa llwybr myfyrwyr.
Mae'r tîm Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn gyfrifol am roi gwybod i'r Swyddfa Gartref am yr holl fyfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion, er mwyn galluogi myfyrwyr cymwys i wneud ceisiadau dilys. Ond, cyfrifoldeb y myfyriwr yw rheoli ei gymhwysedd ar bob cam o'i daith gyda Phrifysgol Abertawe. Bydd cwblhau eich cwrs ar amser yn caniatáu mynediad didrafferth at y fisa Llwybr Graddedigion; gallai unrhyw newidiadau i'ch astudiaethau effeithio ar eich cymhwysedd.Crëwyd y dudalen hon i esbonio’n glir ofynion cymhwysedd y fisa Llwybr Graddedigion gan gefnogi myfyrwyr i ddiogelu eu dyheadau mewnfudo at y dyfodol, mewn perthynas â’r fisa llwybr graddedigion .